Mae cylchlythyr Addewid Caerdydd y mis hwn yn drosolwg o’r ddarpariaeth sydd ar gael i ymadawyr ysgol.
Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i sicrhau bod pobl ifanc a’u teuluoedd yn gallu cyrchu amrywiaeth o gyngor a gwybodaeth, i’w helpu i benderfynu beth i’w wneud ar ôl iddynt orffen yr ysgol.
P’un a yw hyn yn mynd ymlaen i addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant – rydym am sicrhau nad oes unrhyw un yng Nghaerdydd yn cael ei adael ar ôl.
Isod fe welwch gyfeiriadur o gyngor a gwasanaethau a all ddarparu gwybodaeth am chweched dosbarth, gyrsiau coleg, hyfforddeiaethau, cyfleoedd cyflogaeth a llawer mwy.
Mae ein partneriaid yn cynnig cyngor dros y ffôn, yn bersonol trwy apwyntiad, trwy sgyrsiau gwe ac ar-lein.
Beth yw eich cam nesaf? Ni allwn aros i ddarganfod!
CardiffCommitmentPost16Newsletter- Welsh
Comments are closed.