Mae Cyngor Caerdydd wedi cynnal Confensiwn Mae Addysg yn Bwysig i Bawb 2018, gan fachu ar y cyfle i siapio cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru.
Bydd Llywodraeth Cymru yn treialu cwricwlwm newydd o 2019, a fydd yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru erbyn 2022. Bydd mwy o bwyslais ynddo ar baratoi pobl ifanc ar gyfer bywyd, adeiladau ar eu gallu i ddysgu sgiliau newydd a defnyddio’u gwybodaeth pwnc yn fwy cadarnhaol a chreadigol.
Roedd bron iawn i 300 o bobl yng nghonfensiwn Cyngor Caerdydd, a ddaeth ag addysgwyr ynghyd â phlant a phobl ifanc, a chynrychiolwyr o’r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, gan roi gwell dealltwriaeth o’r hyn sydd yn bwysig pan ddaw hi’n fater o gyflenwi cwricwlwm newydd. Ymysg y busnesau ag arddangosfeydd, roedd cyflogwyr sydd wedi ymrwymo i gefnogi Addewid Caerdydd, gan gynnwys Renishaw plc, Cymdeithas Gwestywyr Caerdydd, IQE, Microsoft a Specsavers. Drwy arddangos technolegau newydd a hyrwyddo rhaglenni ymgysylltu ar gyfer ysgolion, ysgogodd yr arddangosfeydd drafodaethau am y dyfodol gan greu cyfleoedd i ysgolion a’u partneriaid weithio gyda’i gilydd.
Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:”Rwyf am i hwn fod yn ddechrau sgwrs ddinesig ehangach am ddyfodol addysg yn ein dinas.Mae cyfle unwaith mewn cenhedlaeth gennym i foderneiddio yr hyn a gaiff ei addysgu, a sut y caiff ei addysgu.
Derllanwch fwy yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/20264.html
Comments are closed.