Mae Strategaeth ‘Da i Blant’ Caerdydd wedi ei lansio yn Neuadd y Ddinas gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd.
Mae hwn yn gam sylweddol tuag at gydnabod Caerdydd yn rhyngwladol fel un o Ddinasoedd Unicef Da i Blant cyntaf y DU.
Mae’n rhoi hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau Caerdydd, gan eu cynnwys nhw wrth wneud penderfyniadau a mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n cyfyngu ar eu cyfleoedd bywyd.
Mae Caerdydd, ynghyd â phedair dinas a chymuned arall yn y DU, wedi bod yn gweithio gydag Unicef UK er mwyn ennill cydnabyddiaeth ryngwladol fel Dinas Unicef sy’n Dda i Blant.
Wedi ei drefnu a’i gynnal gan aelodau o Fwrdd Ymgynghorol Plant a Phobl Ifanc Caerdydd, cynhaliwyd y lansiad ar 20 Tachwedd, gan gyd-daro â Diwrnod Plant y Byd.
Comments are closed.