Mae meithrin diddordeb plant a phobl ifanc yn eu gyrfaoedd ar gam cynnar yn bwysig ac mae annog gweithlu amrywiol o ddiddordeb mawr i mi- Llŷr, Cynhyrchydd Cyfres - Pobol y Cwm - BBC Cymru Wales - Drama
Mae Addewid Caerdydd yn cynnig y cyfle i gynyddu’r wybodaeth ac ymwybyddiaeth am y gwahanol yrfaoedd sydd ar gael yn y system gyfreithiol yng Nghymru a Lloegr- Joanna, Cyfreithwyr Cyswllt ymgyfreitha Masnachol - Blake Morgan LLP
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi’r ymgyrch i wella sgiliau pobl ifanc er mwyn galluogi unigolion sy’n barod i ymuno â’r byd gwaith i gyfrannu at economi Cymru a’r DU.- Jennifer, Pennaeth AD - Circle IT.
Mae Morganstone yn cefnogi cynllun Addewid Caerdydd yn gyfan gwbl ac yn ymrwymo i gynnig ystod o gyfleoedd i ysgolion Caerdydd gan gynnwys lleoliadau gwaith, cynlluniau hyfforddi, sgyrsiau am yrfaoedd, tasgau meithrin tîm, Diwrnodau Byd Gwaith ac ymweliadau â safleoedd.- Antonia, Rheolwr Ymgysylltu â’r Gymuned - Morganstone
Drwy weithio gydag Addewid Caerdydd byddwn yn ysbrydoli pobl ifanc y genhedlaeth nesaf i ymgysylltu â rygbi a’i fusnes drwy amrywiaeth o gynigion addas at y diben, gan roi llwybr cadarnhaol drwy fywyd iddynt. - Ben, Rheolwr Rygbi Rhanbarthol - Undeb Rygbi Cymru