Yn ystod Wythnos Profiad Gwaith Genedlaethol, darparodd British Airways gyfleoedd gwych i fyfyrwyr o Gaerdydd gael mewnwelediad i’r meysydd gwahanol yn y sefydliad. Rhoddodd yr wythnos o ymgyrchu gyfle i British Airways godi ymwybyddiaeth o brofiad gwaith. Rhoddwyd cyfle i fyfyrwyr o Ysgol Gymunedol Gorllewin Caerdydd, Ysgol Uwchradd Fitzalan, Ysgol Gyfun Radur, Ysgol Glantaf, Ysgol Plasmawr ac Ysgol Uwchradd Willows gael taith ryngweithiol o Ardaloedd Mewnol British Airways yng Nghoed Duon , yn ogystal â gweithgareddau i gael mewnwelediad i’r gwaith sy’n gynwysiedig yn y maes penodol hwnnw.
Yn ystod eu hymweliad cafodd y myfyrwyr gyfle i gael mewnwelediad i rolau mewn Peirianneg. Cafodd myfyrwyr daith o’r gweithdy peirianneg, ac roeddent yn gallu gweld yn uniongyrchol yr amrywiaeth o waith sydd ei angen er mwyn cynnal a chadw fflyd British Airways o dros 300 o awyrennau. Rhoddodd y diwrnod ddealltwriaeth well o rolau peirianneg yn British Airways i’r myfyrwyr a sut mae’r gwaith tu ôl i’r llenni yn cyfrannu at y gweithrediad.
Comments are closed.