Dydd Mercher 26 Awst 11am – 4pm
Ymunwch â ni ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau ar-lein i ddarganfod y cymorth y gall Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith a Gwasanaethau Ieuenctid Cyngor Caerdydd ei gynnig i’ch helpu i ystyried beth yw eich cam nesaf.
Dyma’ch cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych a rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru gyda’r Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith i gael cymorth gyda chyflogaeth.
Bydd yr holl sesiynau yn cael eu cyflwyno drwy Microsoft Teams a bydd dolenni ar gael ar wefan y Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith cyn y diwrnod.
11am – 11.15am – Cam wrth Gam Paratoi ar gyfer Cyflogaeth
11.20am – 11.35am – Mentora Ieuenctid Ôl-16 – y cwbl sydd angen i chi ei wybod.
11.40am – 11.55am – Dosbarth Meistr LinkedIn
12.00pm – 12.15pm – Chweched Dosbarth yng Nghaerdydd – ble galla i dal wneud cais i fynychu?
12.20pm – 12.35pm – Camau Cyntaf i Weithio mewn Warws
12.40pm – 12.55pm – Camau Cyntaf i Animeiddio
1.00pm – 1.20pm – Cael Swydd yn y Maes Adeiladu
1.25pm – 1.40pm – Camau Cyntaf i Raglennu
1.45pm – 2pm – Gweithdai Sgiliau Cyfweliad
2.05pm – 2.30pm – Dechrau ym Maes Gofal Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol
2.45pm – 3.00pm – Gyrfaoedd yn y Cyngor gyda Caerdydd ar Waith
3.05pm – 3.20pm – Cael Swydd mewn Canolfan Alwadau
3.25pm – 3.40pm – Sut y gall gwirfoddoli eich helpu gyda’ch ‘cam nesaf’?
3.45pm – 4pm – Beth yw eich Cam Nesaf?
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i wefan y Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith www.intoworkcardiff.co.uk neu ffoniwch 02920 871071
- 26/08/2020
- 11:00 am - 4:00 pm
Comments are closed.