Mae’n bleser gan Gyrfa Cymru eich gwahodd i’n Ffair Prentisiaethau yn y gwanwyn. Digwyddiad gyrfaoedd rhyngweithiol yw hwn sy’n canolbwyntio ar hysbysu pobl ifanc am amrywiaeth o gyfleoedd yn ymwneud â phrentisiaethau a Hyfforddiaethau ar draws ystod eang o sectorau. Mae’n cael ei gynnal yn Stadiwm Pêl-droed Dinas Caerdydd; un o brif ganolfannau digwyddiadau Caerdydd.
Wedi’i drefnu gan Gyrfa Cymru, mae’r digwyddiad hwn wedi’i anelu at ddisgyblion ysgol blwyddyn 10, 11 a Chweched dosbarth a myfyrwyr colegau Addysg Bellach o Gaerdydd a Bro Morgannwg.
Bydd disgyblion yn cael y cyfle i siarad â rhai o gyflogwyr mwyaf Cymru gan gynnwys GE Aviation, Kier Construction, NHS, Hilton Hotels, Royal Air Force, Royal Navy a Gwasanaeth Tân De Cymru
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Adrian Cole yn adrian.cole@careerswales.com neu ar 07931166727.
- 08/03/2019
- 10:00 am - 2:30 pm
Comments are closed.