Rhieni a Gofalwyr

Rydym am weithio gyda chi fel y gallwn, gyda'n gilydd, sicrhau fod gan eich pobl ifanc y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo.

Rydym eisiau:

  • Annog eich plentyn i fod yn uchelgeisiolac agor eu llygaid i ddewisiadau gyrfaol posibl yn y dyfodol
  • Creu cyfleoeddi'ch plentyn ffynnu 
  • Cefnogi'ch plentyn i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen i'w dewis gyrfaol yn y dyfodol

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am sut y gallwn eich cefnogi chi neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

"Mae Tîm Adduned Caerdydd yn chwarae rhan bwysig iawn yn y gwaith o ddarparu cyfleoedd i bob plentyn a pherson ifanc ledled y ddinas. Mae gweithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth â nhw yn cynnig mynediad i bobl ifanc i'r profiadau a'r gefnogaeth fwyaf anhygoel, a all gael effaith sylweddol ar wella eu cyfleoedd ôl-16."-

Craig Bartlett

Gwnewch Adduned!

Os ydych chi'n gyflogwr ac mae gennych ddiddordeb mewn cydweithio i greu cyfleoedd i bobl ifanc yna os gwelwch yn dda, ymunwch â ni ac addo eich cefnogaeth!