Datblygir adnoddau drwy brosiectau arloesol sy'n cynnwys tîm e-ddysgu Cyngor Caerdydd, athrawon o ysgolion Caerdydd, busnesau lleol a Phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe.
Mae partneriaethau a ffurfiwyd dan Addewid Caerdydd yn creu adnoddau gwyddoniaeth a thechnoleg i gynorthwyo dysgu yng Nghaerdydd a rhanbarth De Cymru.
Gall pecynnau adnoddau gynnwys:
Cyflwyniad ar gyfer athrawon.
Gwersi PowerPoint.
Cynlluniau gwers.
Adnoddau a chyfryngau eraill.
Os oes angen help arnoch i gymryd rhan yn y cyrsiau hyn neu gyrchu deunydd arall o’r rhaglen Datgloi Cyfrifiadura, cysylltwch â ni.
Mae Tîm Cwricwlwm Addewid Caerdydd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i greu adnoddau sy'n rhoi cyd-destun byd go iawn i addysgu a dysgu. Cysylltwch â ni os ydych am gael rhagor o wybodaeth neu os hoffech gydweithio â'r tîm.
Yn ogystal, rydym yn cynnal adnoddau partner – os oes gennych unrhyw adnoddau yr hoffech i ni eu cynnal, cysylltwch â ni drwy e-bostio Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..