Plant a Phobl Ifanc

Ydych chi eisiau cael swydd yr ydych yn ei hoffi pan fyddwch chi'n gadael yr ysgol?

Rydym am rannu’r posibiliadau o ran swyddi'r dyfodol a'ch helpu i ddeall mwy am ba ddiwydiannau y bydd y swyddi hyn ynddynt.

Rydym am roi gwybodaeth i chi am y gwahanol lwybrau i'r swyddi hyn a rhoi gwybod i chi sut y gallwch fanteisio ar gyfleoedd a gweithgareddau yma yng Nghaerdydd a fydd yn eich helpu i gyrraedd yno.

Byddwn yn eich helpu i

  • Fod yn uchelgeisiol  
  • Manteisio ar gyfleoedd
  • Datblygu sgiliau newydd 

Eisiau gwybod mwy? Cysylltwch â ni: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld. 

Rydyn ni yma i chi!

Help yn yr ysgol:

Cwrdd â chyflogwyr i ddeall:

  • Eu diwydiant 
  • Eu taith i'r gweithle 
  • Swyddi’r Dyfodol 
  • Prinder sgiliau yng Nghaerdydd 
  • Y mathau o bobl y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt
  • Manteision swyddi!

Cymryd rhan mewn cyfleoedd fel: 

  • Trafod 
  • Profiad gwaith  
  • Ymweliadau yn y gweithle 
  • Cymorth mentora
  • Prosiectau
  • Sgyrsiau
  • Cwrdd â chyflogwyr 

"Mae Tîm Adduned Caerdydd yn chwarae rhan bwysig iawn yn y gwaith o ddarparu cyfleoedd i bob plentyn a pherson ifanc ledled y ddinas. Mae gweithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth â nhw yn cynnig mynediad i bobl ifanc i'r profiadau a'r gefnogaeth fwyaf anhygoel, a all gael effaith sylweddol ar wella eu cyfleoedd ôl-16."

Craig Bartlett