Ysgolion

Gan weithio ochr yn ochr ag ysgolion, rydym yn helpu pobl ifanc i bontio'n llwyddiannus i fyd gwaith drwy amrywiaeth o weithgareddau a chyfleoedd yn yr ysgol ac ar ôl ysgol. Rydym eisiau:

  • Annog y plant a'r bobl ifanc rydych chi'n gweithio gyda nhw i fod yn uchelgeisiol ac agor eu llygaid i ddewisiadau gyrfaol posibl yn y dyfodol.
  • Creu cyfleoedd i'r plant a'r bobl ifanc rydych chi'n gweithio gyda nhw i ffynnu.
  • Cefnogi'r plant a'r bobl ifanc rydych chi'n gweithio gyda nhw i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen i'w dewis gyrfaol yn y dyfodol.

Mae gan Addewid Caerdydd bum rhaglen gweithgareddau i gefnogi plant a phobl ifanc yn Ysgolion Caerdydd a'ch helpu i gynnig Profiadau Gwaith a Gyrfaoedd.  

Os ydych chi eisiau gwybod sut y gallwn eich cefnogi chi neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Sut gall Addewid Caerdydd eich cefnogi chi?

Partneriaid

Darparu partneriaid i'ch cefnogi i ddatblygu uchelgais, creu cyfleoedd a darparu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y plant a'r bobl ifanc rydych chi'n gweithio gyda nhw. 

Cyfleoedd

Eich cysylltu â chyfleoedd i gymell ac ysbrydoli uchelgais ac sy'n cefnogi cynnydd i'r plant a'r bobl ifanc rydych yn gweithio gyda nhw o ran addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.

Gwybodaeth

Codi eich ymwybyddiaeth o ble fydd swyddi'r dyfodol a phrinder sgiliau'r rhanbarth fel y gallwch gefnogi'r plant a'r bobl ifanc rydych yn gweithio gyda nhw i fanteisio ar gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

"Mae’n bwysig iawn bod ein disgyblion yn gallu rhoi eu dysgu mewn cyd-destun bywyd go iawn a deall sut mae gwybodaeth am bynciau o'r ystafell ddosbarth yn ymwneud â'r byd go iawn ac amgylcheddau gwaith gwahanol. Dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf, mae Cantonian wedi datblygu perthynas gref ag Addewid Caerdydd. Mae hyn wedi galluogi ein hysgol i roi cyfleoedd i ddysgwyr weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant a chael cipolwg gwerthfawr ar sut i roi eu gwybodaeth a'u sgiliau ar waith. Mae adroddiad estyn a ryddhawyd yn ddiweddar Paratoi ar gyfer Cwricwlwm Cymru – astudiaethau achos a chameos o ysgolion uwchradd, pob oed ac arbennig Tachwedd 2020 yn tynnu sylw at y gweithgareddau rhagorol sy'n seiliedig ar brosiectau a gynhaliwyd ym maes cwricwlwm Menter (Busnes, Cyfrifiadura a Dylunio a Thechnoleg), lle mae staff a disgyblion yn cydweithio â chysylltiadau busnes a ddarperir gan Addewid Caerdydd."

Karen Edge, Ysgol Uwchradd Cantonian

Gwnewch Addewid!

Os ydych chi'n gyflogwr ac mae gennych ddiddordeb mewn cydweithio i greu cyfleoedd i bobl ifanc yna ymunwch â ni a rhowch eich cefnogaeth!