Busnes a Diwydiant

Mae busnesau a chyflogwyr yn cydweithio i roi’r wybodaeth a’r sgiliau i bobl ifanc sydd eu hangen arnynt er mwyn llwyddo.

Drwy gysylltu busnesau ac ysgolion, hoffai Addewid Caerdydd weld:

  • Pobl ifanc sydd â'r sgiliau cywir i gefnogi ein cyflogwyr a'n sectorau twf ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd
  • Gwell cyrhaeddiad addysgol mewn pynciau craidd fel Gwyddoniaeth, Mathemateg ac Iaith, yn deg ar draws y ddinas.
  • Llwybrau addysg a chyflogaeth integredig i bobl ifanc.
  • Dim pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, yn enwedig o grwpiau agored i niwed fel Plant sy'n Derbyn Gofal, teuluoedd incwm isel.
  • Mynediad hawdd i bobl ifanc at wybodaeth a chyngor ar gyfleoedd gyrfaol

Dangoswch eich cefnogaeth heddiw a'n helpu i lunio ein gweithlu ar gyfer y dyfodol.

Gweithio gyda ni

Sut gallwch chi helpu?

Gall cyflogwyr helpu drwy gynnig:

  • Cyfleoedd mentora
  • Cymorth gyda llythrennedd a rhifedd yn yr ystafell ddosbarth
  • Sgyrsiau am yrfaoedd
  • Ymweliadau ysgol
  • Cyfweliadau ffug gyda chyflogeion sy’n gwirfoddoli
  • Lleoliadau Profiad Gwaith
  • Prentisiaethau
  • Cyfleoedd gwirfoddoli

Sut bydd yn eich helpu chi?

  • Cyfleoedd i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifanc
  • Dangos cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol
  • Meithrin gallu'r gweithlu
  • Codi ymwybyddiaeth o’ch brand a chyflwyno’r busnes i’r genhedlaeth iau
  • Cyfleoedd datblygu staff

Tystebau Cyflogwyr

“Mae cyflogwyr ac ysgolion yn cydweithio i roi’r wybodaeth a’r sgiliau i bobl ifanc sydd eu hangen arnynt er mwyn llwyddo. Rydyn ni yn Virgin Money mor falch ein bod wedi ymuno ag Addewid Caerdydd ac rydym yn awyddus iawn i rannu'r holl gyfleoedd sydd gennym. Ie, banc ydyn ni, ond rydyn ni’n fwy na hynny hefyd!  Mae cymwysterau'n bwysig iawn ond mae profiad yn bwysig hefyd. Ar hyn o bryd rydym yn fwy na pharod i ddarparu sgyrsiau am yrfaoedd ac ymweliadau ysgol a phan mae'n ddiogel i wneud hynny gallwn gynnig llawer mwy. Rydyn ni wir eisiau gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifanc."

Nia Morgan, Virgin Money

"Mae Addewid Caerdydd yn cyrraedd llawer o ysgolion yn Ne Cymru a'r cyffiniau, mae’n bwysig iawn rhoi cyfle i fyfyrwyr gael gwybod pa swyddi, cwmnïau a chyfleoedd sydd ar gael. Mae angen i Gymru allu cystadlu ar lwyfan byd-eang drwy weithio gydag amrywiaeth o Ddiwydiannau ac ysbrydoli pobl ifanc heddiw."

Anna McNally, Microsoft

Addewidion Diweddar:

Cyflogwyr, busnesau a diwydiannau gwahanol sydd wedi ymuno â'n cymuned yn ddiweddar ac wedi addo eu cefnogaeth!

Addewid Cyflogwr

Helpwch ni i lunio gweithlu’r dyfodol yng Nghaerdydd heddiw!

Os ydych chi'n gyflogwr ac mae gennych ddiddordeb mewn cydweithio i greu cyfleoedd i bobl ifanc yna ymunwch â ni a dangos eich cefnogaeth! Rydym yn gyffrous iawn i weithio gyda chi!