Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid

Ydych chi am agor llygaid y plant a'r bobl ifanc rydych chi'n gweithio gyda nhw i’r posibiliadau o ran swyddi’r dyfodol? Rydym am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi a rhoi partneriaid i chi a all gefnogi'r plant a'r bobl ifanc rydych yn gweithio gyda nhw i:

  • Fod yn uchelgeisiol
  • Eu cysylltu â chyfleoedd
  • Datblygu sgiliau newydd  

Os ydych chi eisiau gwybod sut y gallwn eich cefnogi chi neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni: Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..

Sut gall Addewid Caerdydd eich cefnogi chi?

Partneriaid

Darparu partneriaid i'ch cefnogi i ddatblygu uchelgais, creu cyfleoedd a darparu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y plant a'r bobl ifanc rydych chi'n gweithio gyda nhw. 

Cyfleoedd

Eich cysylltu â chyfleoedd i gymell ac ysbrydoli uchelgais ac sy'n cefnogi cynnydd i'r plant a'r bobl ifanc rydych yn gweithio gyda nhw o ran addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.

Gwybodaeth

Codi eich ymwybyddiaeth o ble fydd swyddi'r dyfodol a phrinder sgiliau'r rhanbarth fel y gallwch gefnogi'r plant a'r bobl ifanc rydych yn gweithio gyda nhw i fanteisio ar gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

"Mae Tîm Adduned Caerdydd yn chwarae rhan bwysig iawn yn y gwaith o ddarparu cyfleoedd i bob plentyn a pherson ifanc ledled y ddinas. Mae gweithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth â nhw yn cynnig mynediad i bobl ifanc i'r profiadau a'r gefnogaeth fwyaf anhygoel, a all gael effaith sylweddol ar wella eu cyfleoedd ôl-16."

Craig Bartlett

Gwnewch Addewid!

Os ydych chi'n gyflogwr ac mae gennych ddiddordeb mewn cydweithio i greu cyfleoedd i bobl ifanc yna ymunwch â ni a rhowch eich cefnogaeth!